This project is a partnership between the NHS and the Language Technologies Unit, Canolfan Bedwyr.
Mae’r project hwn yn bartneriaeth rhwng y GIG ac Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr.
The aim of the project is to create personal synthetic voices for patients that are about to lose their ability to speak as a result of diseases such as Motor Neurone Disease or Throat Cancer.
Diben y project yw creu lleisiau synthetig personol i gleifion sydd ar fin colli eu gallu i siard o ganlyniad i gyflyrau megis Clefyd Niwronau Echddygol a Chanser y Gwddf.
The Language Technologies Unit has created a platform that allows patients with the aid of speech therapists to create their own personal authentic voice in Welsh and in English. Usually patients will be referred by their speech therapists to the service, with the patients signing a consent form to enable the project to store their voice and create a synthetic voice for them.
Mae’r Uned Technolegau Iaith wedi creu llwyfan sy’n galluogi cleifion gyda chymorth therapyddion lleferydd i greu eu llais dilys eu hunain yn Gymraeg ac yn Saesneg. Fel arfer bydd therapyddion lleferydd yn cyfeirio cleifion at y ddarpariaeth, gyda’r cleifion yn llofnodi ffurflen gydsynio i alluogi’r project i storio’u llais a chreu llais synthetig ar eu cyfer..
The process is web based and patients need to record text provided for them in the form of recording prompts in each language first. They will then be able to generate their own synthetic voice.
Mae’r broses wedi’i seilio ar y we, gyda chleifion yn recordio testun sydd wedi’i ddarparu iddynt ar ffurf promptiau ar gyfer pob iaith. Maent wedyn yn medru cynhyrchu eu llais synthetig eu hun.
In order to communicate orally in Welsh/English, the user types in the web interface and the interface speaks the words aloud with a synthetic version of the patient's own voice.
Er mwyn medru cyfathrebu ar lafar yn Gymraeg/Saesneg, mae’r defnyddiwr yn teipio o fewn rhyngwyneb gwe a mae’r rhyngwyneb gwe yn darllen y geiriau yn uchel gyda fersiwn synthetig o lais y defnyddiwr.
Further details are included in the information leaflet given by your speech therapist or medical specialist. A consent form will need to be completed and you will need to register in order to use this service. If you have not been referred by your speech therapist or other member of the health service, contact us directly for further instructions.
Ceir rhagor o fanylion yn y daflen wybodaeth a ddarperir gan eich therapydd lleferydd neu arbenigwr meddygol. Mae angen llenwi ffurflen cydsynio a chofrestru cyn medru defnyddio'r gwasanaeth hwn. Os nad ydych wedi cael eich cyfeirio gan eich therapydd lleferydd neu aelod arall o'r gwasanaeth iechyd, cysylltwch gyda ni yn uniongyrchol am gyfarwyddiadau pellach.
We use cookies to improve your experience and enable recording your voice.
Rydym yn defnyddio briwsion i wella eich profiad a galluogi recordio eich llais
Accept & Continue Derbyn a PharhauNeed to learn more? Privacy & Cookie Policy
Angen dysgu mwy? Preifatrwydd a Pholisi Briwsion